P-05-1152 Caewch yr ysgolion! Cadwch ein plant yn ddiogel. Oherwydd y cynnydd mewn COVID-19. Achubwch ein dyfodol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Amy Hughes, ar ôl casglu cyfanswm o 1,585 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Gan fod ysgolion ac adeiladau eraill nad ydynt yn hanfodol wedi ailagor, mae COVID-19 wedi dechrau cynyddu eto.
Drwy gadw’r ysgolion ar gau ac addysgu plant gartref neu drwy alwadau fideo hyd yn oed, rydym yn helpu i atal COVID-19. Rydym yn helpu i achub ein GIG, aelodau ein teulu a’n dyfodol!
Mae sawl ffordd o addysgu plant heb beri risg iddyn nhw ac i bobl eraill.
Caewch yr ysgolion. Gwnewch ystafelloedd dosbarth ar-lein er mwyn ei gwneud hi’n ddiogel.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dwyrain Abertawe
· Gorllewin De Cymru